Al Hoceima

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar Al Hoceima
Mynyddoedd y Rif ger Al Hoceima, haf

Dinas a phorthladd ym Moroco yw Al Hoceima, i'r gogledd o fynyddoedd y Rif ar lan y Môr Canoldir. Amcangyfrir fod gan y ddinas ei hun tua 102,000 o bobl yn byw ynddi tra bod tua 395,644 yn yr ardal ddinesig (cyfrifiad 2004). Mae'n brifddinas rhanbarth Taza-Al Hoceima-Taounate.

Mae Al Hoceima ar diriogaeth llwyth y Bucoya, un o lwythau'r Rif, Berberiaid sy'n siarad Amazight.

Dinas gymharol ddiweddar yw Al Hoceima. Cafodd ei sefydlu gan y Sbaenwyr yn 1925 ar ôl iddynt gipio'r rhan yma o'r Rif. Dychwelodd i reolaeth Moroco wedi i'r wlad ennill ei hannibyniaeth. Y prif ddiwydiannau heddiw yw pysgota a thwristiaeth.

Gefeilldref[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Flag of Morocco.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato