Al Jazeera

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Al-Jazeera)
Al Jazeera
Enghraifft o'r canlynoldarlledwr, gorsaf deledu Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Tachwedd 1996 Edit this on Wikidata
PerchennogAl Jazeera Media Network Edit this on Wikidata
SylfaenyddHamad bin Khalifa Al Thani Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadAl Jazeera Media Network Edit this on Wikidata
PencadlysDoha Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.aljazeera.com/, https://www.aljazeera.net/, https://chinese.aljazeera.net/, http://aljazeera.com.tr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo sianel deledu Al Jazeera

Mae Al Jazeera (Arabeg: الجزيرة‎, al-jazīrah; IPA: [aldʒaˈziːra], sy'n golygu "Yr Ynys" yn Arabeg), yn rhwydwaith teledu rhyngwladol sydd a'i phencadlys yn Doha, Catar.[1] Yn wreiddiol, lawnsiwyd y sianel fel sianel teledu lloeren Arabeg ar gyfer newyddion a materion cyfoes Arabaidd, ond bellach mae Al Jazeera wedi ehangu i fod yn rhwydwaith gyda nifer o ganghennau gan gynnwys safle gwe a sianeli teledu arbenigol mewn amryw o ieithoedd ac mewn sawl rhan o'r byd, yn cynnwys Saesneg.

Perchennog Al Jazeera yw Llywodraeth Qatar.[2][3][4][5][6] Er hyn, cadarnhaodd swyddogion y sianel ar nifer o achosion eu bod yn annibynnol eu barn o'r Llywodraeth.

Cafodd y sianel sylw'r byd yn dilyn ymosodiadau Medi'r 11eg, 2001 pan ddarlledodd ddatganiadau gan Osama bin Laden ac arweinwyr eraill al-Qaeda. Hi oedd yr unig sianel a ddarlledai o Affganistan yn anterth y rhyfela, a hynny'n fyw o'u swyddfeydd yn Affganistan.[7]

Erbyn heddiw mae'n un o'r sianeli teledu newyddion rhyngwladol mwyaf cyfarwydd a dylanwadol yn y byd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Y stafell newyddion.

Al Jazeera Saesneg[golygu | golygu cod]

Yn 2003 fe huriodd y cwmni newyddiadurwyr Saesneg eu hiaith, gan gynnwys Afshin Rattansi,[8] a weithiai cyn hynny i'r rhaglen Today Programme y BBC. Ac ym Mawrth yr un flwyddyn, lansiodd ei wefan Saesneg.[9] Ar 4 Gorffennaf 2005 cyhoeddodd Al Jazeera wasanaeth lloeren newydd - un Saesneg ei iaith o'r enw Al Jazeera International.[10]

Mae'r ymgyrchydd gwleidyddol o'r Alban George Galloway yn cyfrannu'n rheolaidd i'r sianel drwy ei raglen wythnosol.

Cychwynodd y sianel newydd hwn ar ei waith am 12.00 (GMT) ar 15 Tachwedd 2006 o dan yr enw Al Jazeera English, gyda'i ganolfanau darlledu yn Doha (y drws nesa i'r pencadlys gwreiddiol), Llundain, Kuala Lumpur a Washington, D.C.. Mae'n sianel newyddion 24 awr, 7-dydd yr wythnos, gyda 12 awr yn cael ei darlledu o Doha, a phedair awr yr un o Lundain, Kuala Lumpur a Washington.

Al Jazeera America[golygu | golygu cod]

Yn Ionawr 2013, prynnodd Al Jazeera Media Network cyn gwmni Al Gore, sef Current TV a thrwy hynny lansiwyd Al Jazeera yn yr Unol Daleithiau yn Awst 2013.[11]

Argaeledd[golygu | golygu cod]

Yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, mae Al Jazeera ar gael ar lwyfan Sky a Freesat yn ogystal ag ar deledu daearol digidol. Ar 26 Tachwedd 2013 lansiodd y cwmni rai sianeli HD ar rai o'u trosglwydyddion.[12] Gellir derbyn Al Jazeera am ddim drwy Ewrop, hanner gogleddol Affrica a'r Dwyrain Canol gyda derbynnydd DVB-S gan ei fod yn cael ei darlledu o loerennau Astra 1M, Eutelsat Hot Bird 13A, Eutelsat 10A, Badr 4, Turksat 2A, Thor 6, Nilesat 102, Hispasat 1C ac Eutelsat 28A. Mae'r lloeren Optus C1 yn ei darlledu hefyd yn Awstralia.

Galeri fideo[golygu | golygu cod]

Ceir cofnod fideo manwl a chynhwysfawr o Ryfel Affganistan (a nifer o ryfeloedd a digwyddiadau eraill) ar Comin Wikimedia; dyma enghreifftiau:

Diwrnod 12 / 7 Ionawr 2009 (de/es/nl/pl)
Diwrnod 13 / 8 Ionawr 2009 (de/es/nl/pl)
Diwrnod 14 / 9 Ionawr 2009 (de/es/nl/pl)
Diwrnod 15 / 10 Ionawr 2009 (de/pl)
Diwrnod 16 / 11 Ionawr 2009 (de/pl)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Habib Toumi (13 Gorffennaf 2011). "Al Jazeera turning into private media organisation". Gulf News. Cyrchwyd 8 Ionawr 2013.
  2. DOCTOR OF PHILOSOPHY(COMMUNICATION) Dissertation
  3. Al-Jazeera's political independence questioned amid Qatar intervention, The Guardian
  4. Deconstructing Al Jazeera and its paymasters Archifwyd 2021-05-13 yn y Peiriant Wayback. Let us build pakistan
  5. Al-Jazeera Gets Rap as Qatar Mouthpiece Bloomberg
  6. Qatari-owned Al Jazeera America makes its debut Reuters
  7. Whitaker, Brian (7 Chwefror 2003). "Battle station". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 Awst 2011.
  8. "Afshinrattansi.com". Afshinrattansi. Cyrchwyd 12 Ebrill 2012.
  9. aljazeera.com
  10. "Al Jazeera turns its signal West". Web.archive. 10 Gorffennaf 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-07-10. Cyrchwyd 12 Ebrill 2012.
  11. Stelter, Brian (13 Ionawr 2012). "Current TV Finds a Good Number Within Its Tiny Ratings". new York Times. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
  12. Al Jazeera (26 Tachwedd 2013). "Al Jazeera launches on Freeview HD". Cyrchwyd 26 Tachwedd 2013.