Aizawl
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf talaith Mizoram yng ngogledd-ddwyrain India yw Aizawl. Daeth yn brifddinas Mizoram pan grëwyd y dalaith ym mis Chwefror 1987. Mae ganddi boblogaeth o 339,812.
Cysylltir Aizawl â Silchar a Shillong gan ffyrdd a cheir gwasanaeth awyr rheolaidd i Kolkata (Gorllewin Bengal) a Guwahati (Assam).