Aillén

Oddi ar Wicipedia
Aillén
Enghraifft o'r canlynolduwdod, Irish mythical character Edit this on Wikidata

Mae Aillén yn anghenfil chwedlonol Gwyddelig sy'n poeri tân.

Ceir hanesion amdano yn chwedlau Cylch y Fiana.

Yn amser y brenin Conn Cétchatach roedd yr anghenfil yn dod i'r llys yn Tara bob Samain (Gŵyl Calan Gaeaf), yn gwneud i bawb syrthio i gysgu trwy swyn ei gerddoriaeth ac yna'n llosgi castell y brenin. Llwyddodd yr arwr Fionn mac Cumhaill i aros yn effro un tro a lladdodd Aillén â'i waywffon.

Mae'n perthyn i ddosbarth eang o anghenfilod arallfydol rheibus cysylltiedig â thân, e.e. dreigiau.