Ailddosbarthu cyfoeth
Oddi ar Wicipedia
Trosglwyddo cyfoeth, incwm, neu eiddo o unigolion i unigolion eraill yw ailddosbarthu cyfoeth trwy ddull cymdeithasol megis trethiant, polisïau ariannol, lles, gwladoli, elusen, ysgariad, neu gyfraith tort. Gan amlaf mae'n cyfeirio at ailddosbarthu gynyddol, o'r cyfoethog i'r tlawd, er enghraifft trwy dreth gynyddol, ond gall hefyd gyfeirio at ailddosbarthu gostyngol, o'r tlawd i'r cyfoeth. Ceir nifer o wahanol safbwyntiau ar ailddosbarthu gan ideolegau economaidd, gwleidyddol, crefyddol, moesol, a chymdeithasol.