Ail Groesfan Hafren

Oddi ar Wicipedia
Ail Groesfan Hafren
Mathpont ffordd, pont gablau, segmental bridge Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Hafren, Siarl III Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol5 Mehefin 1996 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1996 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDe-orllewin Lloegr Edit this on Wikidata
SirDe Swydd Gaerloyw, Sir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5745°N 2.7016°W Edit this on Wikidata
Hyd5,128 ±0.5 metr Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethJohn Laing plc, Vinci, Bank of America, Barclays Investment Bank Edit this on Wikidata
Cost380,000,000 punt sterling Edit this on Wikidata
Deunyddconcrit, dur Edit this on Wikidata

Pont draffordd sy'n cysylltu Cymru a Lloegr dros aber Afon Hafren yw Pont Tywysog Cymru (gynt Ail Groesfan Hafren). Fe'i hagorwyd ar 5 Mehefin 1996 i leddfu anawsterau traffig ar Bont Hafren, y groesfan gyntaf dros yr aber. Fe'i lleolir i'r de i'r bont wreiddiol.

Mae Ail Groesfan Hafren yn dwyn traffordd yr M4, oedd yn rhedeg dros Bont Hafren cyn iddi gael ei hadeiladu. Mae'r bont gyntaf yn dwyn traffordd yr M48 erbyn hyn.

Pont grog yw'r Bont Hafren gyntaf, ond mae'r ail bont yn wahanol.

Yn 2018, datganwyd bydd y bont yn cael ei hail-enwi'n Bont Tywysog Cymru i nodi pen-blwydd Siarl, Tywysog Cymru yn 70 oed. Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a'i alwodd yn "deyrnged addas".[1] Gwrthwynebai'r enw newydd gan nifer fawr o Gymry,[2] ac arwyddwyd deiseb yn gwrthwynebu'r ailenwi gan dros 38,000 (Gorffennaf 2018)[3]. Codwyd 2 arwydd, un naill pen y bont, gydag enw newydd y bont ar gost o £216,513.39

Golygfa ar y bont o lan ddeheuol aber Hafren
Y bont o draeth yr Hafren

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ailenwi ail Bont Hafren “yn deyrnged addas” i’r Tywysog Charles", Golwg360 (5 Ebrill 2018). Adalwyd ar 8 Ebrill 2018.
  2. "Pont Tywysog Cymru: Yr ymateb i'r ail-enwi", BBC (5 Ebrill 2018). Adalwyd ar 8 Ebrill 2018.
  3.  Stop the renaming of the second Severn Crossing to the Prince of Wales Bridge. change.org (Ebrill 2018). Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2018.