Afon Yukon
Oddi ar Wicipedia
Afon yng Ngogledd America yw afon Yukon. Mae'n 3,185 km o hyd. Ceir ei tharddle gerllaw'r ffîn rhwng British Columbia a thiriogaeth Yukon, Canada. Wedi croesi'r ffîn i'r Unol Daleithiau, mae'n llifo trwy Alaska i aberu ym Môr Bering.
Ymhlith y trefi ar ei glan mae Whitehorse, Dawson City a Fort Yukon. Dim ond pedair pont sy'n ei chroesi.