Afon Sepik
Oddi ar Wicipedia
Afon ar ynys Guinea Newydd yw afon Sepik. Mae'r rhan fwyaf ohoni o fewn Papua Guinea Newydd, gyda rhan fechan yn nhalaith Papua o Indonesia. Hi yw afon hwyaf yr ynys, tua 1,126 km o hyd.
Mae'n tarddu ym Mynyddooedd Victor-Emanuel, yn ucheldiroedd Papua Guinea Newydd, ac yn cyrraedd Môr Bismarck tua 100 km i'r dwyrain o Wewak.