Afon Salawin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dalgylch afon Salwin

Afon yn Ne Asia yw afon Salawin, hefyd Salwin neu Salween . Mae'r afon, sy'n 2,815 km o hyd, yn tarddu yn Tibet, yna yn llifo trwy dalaith Yunnan, Gweriniaeth Pobl Tseina, lle gelir yr afon yn Nujiang. Oddi yno, llifa trwy Myanmar, lle gelwir hi yn Thanlwin. Am ran o'i hyd mae'n ffurfio'r ffîn rhwng Myanmar a Gwlad Thai, lle gelwir hi yn Mae Nam Salawin. Mae'r afon yn aberu ym Môr Andaman.

Dim ond ar hyd daern byr ger yr aber y gellir defnyddio llongau arni. Yn Tseina, mae'n llifo heibio clogwyni uchel. Yn Yunnan, ffurfia'r afon ran o "Ardal Warchodfa y Tair Afon Gyfochrog yn Yunnan", sydd wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Afon Salawin ger Mae Sam Laep, Amphoe Sop Moei