Afon Rangeet

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jorethang gydag Afon Rangeet yn y pellter

Un o ledneintiau Afon Teesta, afon fwyaf Sikkim yng ngogledd-ddywrain India, yw Afon Rangeet (sillafiad amgen: Afon Rangit).

Gorwedd traddle'r afon ym mynyddoedd yr Himalaya yng Ngorllewin Sikkim, nepell o Kanchenjunga. Fe'i bwydir gan eira tawdd o'r Himalaya yn y gwanwyn a glaw y monsŵn yng Ngorffennaf ac Awst. Yn llifo ar hyd cwrs treollog trwy'r bryniau coediog, mae Afon Rangeet yn ymuno yn y Teesta yn nhref fechan Teesta Bazaar ar y ffin rhwng Gorllewin Bengal (Ardal Darjeeling) a Sikkim, gan ffurfio'r ffin rhwng y ddwy dalaith am 2–3 km olaf ei chwrs.

Mae'r afon yn lifo heibio i Yuksom, Jorethang, Pelling a Legship.