Afon Paraguay

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Afon Paraguay ger Asunción

Afon yn Ne America yw Afon Paraguay (Sbaeneg: Río Paraguay). Mae'n tarddu yn rhan ddeheuol Brasil, yn Sete Lagoas, Mato Grosso, yna'n llifo trwy ran fechan o Bolivia cyn cyrraedd Paraguay, lle mae rhan o'i chwrs yn dynodi'r ffîn rhwng y wlad honno a'r Ariannin. Mae'n llifo heibio Asunción, prifddinas Paraguay, cyn ymuno ag Afon Paraná.

I raddau helaeth, hen gwrs Afon Paraguay sy'n ffurfio un o wlyptiroedd pwysicaf De America, y Gran Pantanal.

Cwrs Afon Paraguay