Afon Orb

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Orb yn Roquebrun

Afon yn departement Hérault, yn Languedoc-Roussillon, de Ffrainc yw afon Orb. Mae'n tarddu yn rhan ddeheuol y Massif Centrale, rhwng y monts de l'Escandorgue a'r Montagne Noire. Mae'n cyrraedd y gwastadedd ger Béziers, lle mae'r Canal du Midi yn croesi'r afon ar draphont, cyn cyrraedd y Môr Canoldir yn Valras-Plage.