Afon Om

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Om.

Afon fawr yng ngorllewin Siberia yn Rwsia yw Afon Om (Rwseg: Омь). Ei hyd yw tua 724 km. Mae'n un o lednentydd Afon Irtysh. Mae'r afon yn tarddu yng Nghors Vasyugan, ar y ffin rhwng Oblast Novosibirsk ac Oblast Omsk ac yn llifo trwy eangderau Gwastadedd Gorllewin Siberia.

Gorwedd dinas Omsk, canolfan weinyddol yr oblast o'r un enw, ar gymer afonydd Om ac Irtysh.

Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.