Afon Ohio
Oddi ar Wicipedia
Afon Ohio yn llifo trwy Cincinnati.
Afon fawr yn yr Unol Daleithiau sy'n rhoi ei henw i dalaith Ohio yw Afon Ohio. Ei hyd yw 1577 km (980 milltir).
Mae'n llifo ar gwrs de-orllewinnol yn bennaf o'i tharddle ger Pittsburgh yng ngorllewin Pennsylvania ac ar hyd y ffin rhwng Ohio ac Indiana (glan ogleddol) a Kentucky (glan ddeheuol) i'w chymer ar Afon Mississippi yn Illinois.