Afon Nerbioi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Nerbioi yn Etxebarri

Afon yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Afon Nerbioi (Basgeg: Nerbioi, Sbaeneg: Nervión). Mae'n tarddu ger y ffîn rhwng taleithiau Burgos ac Araba. Heb fod ymhell o'i tharddiad mae'n ffurfio rhaeadr lle mae'r dŵr yn disgyn 270 medr. Llifa i mewn i dalaith Biskaia ger Orduña, ac yn Basauri, mae Afon Ibaizábal yn ymuno a hi. Mae'r ddwy afon yn ffurfio aber sy'n llifo trwy ddinas Bilbo, ac a adwaenir fel y Ría de Bilbao yn Sbaeneg.