Afon Mynach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwrs uchaf Afon Mynach.

Afon yng ngogledd Ceredigion yw Afon Mynach. Mae'n un o lednentydd Afon Rheidol ac yn rhoi ei henw i bont enwog Pontarfynach ("Devil's Bridge"). Hyd: tua 7 milltir.

Mae prif darddle'r afon yn gorwedd ym mryniau Elenydd tua 5 milltir i'r dwyrain o bentref Ponterwyd. Fel Rhuddnant mae'n cael ei hadnabod am ran gyntaf ei chwrs. Mae'r ffrwd honno ac afon Myherin yn cwrdd tua 3 milltir o Bontarfynach a gelwir yr afon yn 'Afon Mynach' am weddill ei chwrs.

Wrth dynesu at Bontarfynach mae'r afon yn disgyn trwy gwm coediog a cheir Rhaeadr Mynach yma ger y bont (tair pont, mewn gwirionedd). Mae'r ffordd A4120 yn croesi'r afon ar Bontarfynach. Yn fuan ar ôl hynny ceir cymer Afon Mynach yn Afon Rheidol; mae Rheidol yn llifo tua'r gorllewin ac yn aberu ym Mae Ceredigion yn harbwr Aberystwyth.

WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill