Afon Morda

Oddi ar Wicipedia
Afon Morda
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.76736°N 3.0326°W Edit this on Wikidata
AberAfon Efyrnwy Edit this on Wikidata
Map
Rhyd ar Afon Morda ger Weston, Swydd Amwythig.

Un o ledneintiau Afon Efyrnwy yw Afon Morda. Gorwedd ei tharddle yng Nghymru ond mae'n llifo trwy orllewin Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, am weddill ei chwrs. Ei hyd yw tua 18 milltir.

Mae'r afon yn tarddu ym mhen gogleddol Y Berwyn yn sir Wrecsam, ger pentref gwledig Llechrydau. Tua dwy filltir yn is i lawr mae hi'n croesi'r ffin i Loegr. Mae'r afon yn rhedeg ar gwrs deheuol, yn gyffredinol, trwy Swydd Amwythig i ymuno yn Afon Efyrnwy yn union ar y ffin â Phowys a Chymru. Llifa'r Efyrnwy yn ei blaen am rai milltiroedd i'w chymer ar Afon Hafren tua hanner ffordd rhwng Y Trallwng ac Amwythig.

Mae'r pentrefi ar lan Afon Morda yn cynnwys Llawnt a Morda, ger Croesoswallt, sy'n cymryd ei enw o'r afon.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.