Afon Mamoré

Oddi ar Wicipedia
Afon Mamoré
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBolifia, Brasil Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15.944758°S 64.755883°W, 10.382129°S 65.390282°W Edit this on Wikidata
AberAfon Madeira Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Yacuma, Grande River, Afon Guaporé, Afon Apere, Afon Chapare, Afon Isiboro, Mamorecillo River, Afon Ibare, Afon Yata Edit this on Wikidata
Dalgylch595,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,930 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad11,649 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon yn Ne America sy'n llifo i mewn i afon Madeira, sy'n un o lednentydd afon Amazonas, yw afon Mamoré. Mae afon Mamoré ac afon Beni yn cyfarfod i'r dwyrain o Nova Mamoré i ffurfio afon Madeira.

Ceir tarddiad afon Mamoré ar lethrau gogleddol y Sierra de Cochabamba, i'r dwyrain o ddinas Cochabamba, Bolifia, dan yr enw afon Chimoré. Ger Puerto Villaroel mae'r afon yma yn uno ag Ichilo, sydd yn fuan wedyn yn ymuno ag Afon Chapare i ffurfio afon Mamoré. Rhyw 20 km yn nes ymlaen, mae'r fwyaf o'i llednentydd, y Río Grande, yn ymuno â hi.

Afon Mamoré o fewn dalgylch afon Amazonas