Afon Llobregat
Oddi ar Wicipedia
Afon yng Nghatalonia yw afon Llobregat. Hi yw ail afon Catalonia o ran hyd, 170 km o hyd.
Tardda'r afon yn Castellar de n'Hug, 1,259 medr uwch lefel y môr yn y Serra del Cadí, ac mae'n cyrraedd y Môr Canoldir ger El Prat de Llobregat, gerllaw Barcelona. Mae llawer o waith peirianneg sifil wedi ei wneud ar ran isaf yr afon, gyda dŵr yn cael ei bwmpio yn ôl i fyny'r afon i sicrhau cyflenwad digonol o ddŵr. Yn Martorell, mae hen ffordd Rufeinig y Via Augusta yn croesi'r afon ar y Puente del Diablo ("Pont y Diafol").