Yr Afon Life a Phont O'Connell yn Nulyn
Mae Afon Life (Gwyddeleg: An Life, Saesneg: River Liffey) yn afon yn Iwerddon, sy'n llifo trwy ganol dinas Dulyn. Ymhlith yr afonydd llai sy'n ei bwydo mae'r afonydd Dodder, Poddle a'r Camac. Darpara'r afon rhan helaeth o gyflenwad dŵr y ddinas a nifer o gyfleoedd am weithgareddau adloniadol.