Afon Kolyma

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Kolyma

Afon yn nwyrain Siberia, Rwsia yw afon Kolyma (Rwseg: Колыма). Mae'n 2,129 km o hyd ac yn llifo i Fôr Dwyrain Siberia. Enwir rhanbarth traddodiadol Kolyma ar ôl yr afon hon, sy'n llifo trwyddo.

Ceir ei tharddle ym Mynyddoedd Tscherski. Mae'n llifo tua'r gogledd-ddwyrain tua'r môr gan fynd trwy Oblast Magadan, Gweriniaeth Sakha ac Ocrwg Ymreolaethol Chukotka.

Afon Kolyma ger Debin
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.