Afon Jefferson
Oddi ar Wicipedia
Afonydd Beaverhead a Big Hole yn ymuno i ffurfio afon Jefferson ger Twin Bridges, Montana.
Afon yn yr Unol Daleithiau yw afon Jefferson. Mae'n llifo trwy dalaith Montana i ymuno ag afon Missouri.
Ffurfir afon Jefferson pan mae afonydd Beaverhead a Big Hole yn ymuno ger Twin Bridges, Montana. Ger Three Forks mae'n ymuno ag afon Madison i ffurfio afon Missouri. Enwyd yr afon ar ôl yr Arlywydd Thomas Jefferson.