Afon Iguazú

Oddi ar Wicipedia
Afon Iguazú
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBrasil, yr Ariannin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.592459°S 54.591751°W, 25.3917°S 49.0031°W, 25.68°S 54.435°W Edit this on Wikidata
TarddiadSerra do Mar Edit this on Wikidata
AberAfon Paraná Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon San Antonio, Timbó River, Afon Paciência, Afon Capivari, Afon Passa Una, Afon Negro, Afon Capanema, Afon Siemens, Afon Floriano, Afon Cotegipe Edit this on Wikidata
Dalgylch62,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,320 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad1,746 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon yn Ne America yw Afon Iguazú (Sbaeneg: Río Iguazú, Portiwgaleg: Rio Iguaçu). Ceir ei tharddle ym mynyddoedd y Sierra do Mar, yn nhalaith Paraná (Brasil). Mae tua 1,300 km o hyd, y 1,205 km cyntaf o fewn Brasil, a'r 115 km wedyn yn ffurfio'r ffîn rhwng yr Ariannin a Brasil. Llifa'r Afon Iguazú i mewn i Afon Paraná ger y fan lle mae ffiniau'r Ariannin, Brasil a Pharagwâi yn cyfarfod. Tua 23 km cyn i'r afon gyrraedd y Paraná ceir Rhaeadrau Iguazú, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Wedi i'r afon lifo i mewn i Afon Paraná, gellie gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr ond ar wahan am geyn bellter; mae dyfroedd yr Iguazú yn glir tra mae dyfroedd y Paraná yn dywyll.

Afon Iguazú
Y fan lle mae ffiniau'r Ariannin, Brasil a Paragwâi yn cyfarfod, gyda'r Afon Iguazú yn ffurfio'r ffín