Afon Ffraw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Ffraw.
Rhed Afon Ffraw drwy Llyn Coron

Afon fechan yng ngorllewin Ynys Môn yw Afon Ffraw. Enwir pentref Aberffraw, sedd draddodiadol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, ar ei hôl ynghyd â'r cantref o'r un enw. Ystyr ffraw neu ffro yw "llif". Afon Ffrawf oedd yr hen ffurf.

Mae tarddle'r afon yn y caeau ger Heneglwys (yn ymyl maes awyr bach Mona sy'n perthyn i RAF y Fali), fymryn i'r gorllewin o Lyn Cefni. Afon Gwna yw enw'r afon ar ddechrau ei thaith. Mae'n llifo trwy blwyf Cerrigceinwen ac yn golchi ystlys siambr gladdu Din Dryfol. Ar bwys Bodorgan mae'n llifo dan bont sy'n dwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac yn aberu yn Llyn Coron. O'r llyn honno llifa i'r de-orllewin trwy wlybdir a thywynod ar gwrs cyfochrog i'r lôn fawr rhwng Llangadwaladr ac Aberffraw. Fymryn cyn cyrraedd y pentref olaf mae ffrwd arall yn ymuno â hi o'r gogledd. Mae'r afon yn pasio dan bont hynafol Aberffraw, yn mynd heibio i'r pentref ac yn aberu yn y môr tua hanner milltir i'r de ohono. Traeth Mawr yw enw'r traeth yma a Bae Aberffraw yw enw'r bae bach.