Afon Eisingrug

Oddi ar Wicipedia
Afon Eisingrug
Afon Eisingrug yn llifo dan Bont Glan-y-wern
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Dwyryd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.888243°N 4.037808°W Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Caerwych Edit this on Wikidata
AberLlanfihangel-y-traethau Edit this on Wikidata
Map

Afon yn ne Gwynedd, Cymru, yw Afon Eisingrug. Mae'n llifo trwy ran o ogledd-orllewin bro Ardudwy. Ei hyd yw tua 4.5 milltir.

Llyn Caerwych, mewn pant eang ar lethrau gorllewinol Bryn Cader Faner yw tarddle'r afon. O'r llyn mae'r afon yn llifo i'r de am hanner milltir cyn troi i lifo ar gwrs gorllewinol i lawr heibio i bentref bychan Eisingrug ac wedyn yn syrth trwy Lyn Cywarch i bentref Glan-y-wern. Mae pont yn dwyn y ffordd A496 drosti ger Glan-y-wern ac un arall fymryn yn is i lawr yn dwyn Rheilffordd Arfordir Cymru.

Mae rhan olaf ei chwrs yn weddol syth dros ymyl ogleddol Morfa Harlech. Mae'n cyrraedd ei haber ger Llanfihangel-y-traethau lle mae ffrwd fechan o Forfa Harlech yn ymuno â hi i lifo i'r Traeth Bychan. Pan fo'r llanw'n isel gwelir ei gwely ar y traeth am hanner milltir arall hyd at Afon Dwyryd.