Afon Clywedog (Dyfrdwy)

Oddi ar Wicipedia
Afon Clywedog (Dyfrdwy)
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0197°N 2.8825°W Edit this on Wikidata
AberAfon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Gwenfro Edit this on Wikidata
Map
Afon Clywedog yn llifo trwy Barc Erddig

Afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n llifo i mewn i'r Afon Dyfrdwy yw Afon Clywedog.

Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau i'r gorllewin o bentref Y Mwynglawdd. Ar ôl llifo trwy'r Mwynglawdd, mae'n troi tua'r de-ddwyrain, heibio i Goedpoeth, Y Bers, a Rhostyllen, a thrwy Barc Gwledig Erddig, wedyn yn llifo tua'r dwyrain ychydig i'r de o Wrecsam. Mae llwybr cerdded ar hyd lan yr afon yr holl ffordd o'r Mwynglawdd i Wrecsam. Wedi mynd heibio Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, mae Afon Clywedog yn ymuno ag Afon Dyfrdwy yn agos i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.