Afon Clettwr

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd: Afon Cletwr (Gogledd Ceredigion)

Pont Dolfor yn croesi Afon Cletwr

Afon yn Ne Ceredigion sy'n llifo i mewn i Afon Teifi yw Afon Cletwr (ffurf hanesyddol: Clettwr).[1][2] Cyfeiria enw Cletwr - 'Caled-ddŵr' yn wreiddiol - at rediad cyflym a gwyllt yr afon.[3]

Ffurfir Afon Cletwr gan ddwy afon, Afon Cletwr Fawr ac Afon Cletwr Fach. Tardda Afon Cletwr Fawr ar yr ucheldir i'r gogledd o bentref Talgarreg, tra mae Afon Cletwr Fach yn tarddu ymhellach i'r dwyrain. Mae'r ddwy yn llifo tua'r de ac yn cyfarfod gerllaw pentref Pont-Siân. Llifa Afon Cletwr ymlaen tua'r de, trwy Rhydowen a Chapel Dewi, cyn llifo i mewn i Afon Teifi ychydig i'r gorllewin o bentref Llanfihangel-ar-Arth.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Ganed y bardd gwlad poblogaidd Rees Jones (Amnon) yn rhan uchaf Dyffryn Cletwr, ger Talgarreg, yn 1797. Tir Dyffryn Cletwr oedd yr enw am yr ardal honno yn oes y bardd. Cyhoeddwyd ei waith yn y gyfrol Crwth Dyffryn Clettwr.

Ysbrydolwyd nifer fawr o feirdd a cherddorion i ganu clodydd Cletwr dros y canrifoedd. Dyma flas o'u gwaith:

Ar lannau Afon Cletwr, yn blentyn maged fi,
A ches fy suo i gysgu, yn sŵn ei dyfroedd hi.
Ac yma bûm yn chwarae, yn hogyn nwyfus iach,
A cheisio dal brithyllod, yng nghrydiau Cletwr fach.
Mae dŵr yn troi melinau, wrth fyned ar ei hynt,
A rhod y ffatri hefyd, fel yn y dyddiau gynt.
Ymysg y brwyn a’r eithin, mae’n tarddu ar y rhos,
A thyf y blodau gwylltion, o gylch ei dwy lan dlos.
A phan ddaw dydd fy nghladdu, torrwch fy meddrod i,
Ger dwy lan Afon Cletwr, yn sŵn ei dyfroedd hi.
Anhysbys (baled draddodiadol)

Recordiwyd Daff Jones, "baledwr Dyffryn Cletwr", yn perfformio'r faled ar raglen deledu Dilyn Afon: Cletwr yn 1973.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru" (PDF). Comisiynydd y Gymraeg. 21 Medi 2021. Cyrchwyd 9 Chwefror 2022.
  2. "Cymraeg Proffesiynol: Uned 1 - Orgraff – Confensiynau Sillafu" (PDF). Adnoddau Bont. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-12-27. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2021.
  3. "Caled". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2021.
  4. "Dilyn Afon: Cletwr". BBC Cymru. 1973.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]