Afon Blavezh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Blavezh yn Pondi.

Afon yn Llydaw yw afon Blavezh (Ffrangeg: Blavet). Mae'r afon, sy'n 148.9 km o hyd, yn tarddu ger mynyddoedd Haute-Cornouaille a Trégor yn département Aodoù-an-Arvor, ac yn llifo tua'r de i département Mor-Bihan. O Gwareg hyd Pondi, mae'n ffurfio rhan o Gamlas Noaoned - Brest. O Pondi ymlaen i'r aber, gall llongau ei defnyddio.

Llifa'r afon heibio trefi Saint-Nicolas-du-Pélem, Gwareg, Pondi, Henbont ac An Oriant.

Aber afon Blavezh ger An Oriant. Afon Blavezh ar y dde, Afon Skorf ar y chwith.