Afon Biryusa

Oddi ar Wicipedia
Afon Biryusa
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Irkutsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Uwch y môr101 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.865673°N 97.426461°E, 57.721517°N 95.421031°E Edit this on Wikidata
TarddiadMynyddoedd Sayan Edit this on Wikidata
AberAfon Taseyeva Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Tagul, Poyma, Tumanshet, Toporok, Malaya Biryusa Edit this on Wikidata
Dalgylch55,800 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,012 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad349.7 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon yn Oblast Irkutsk, Rwsia, yw Afon Biryusa (Rwseg: Бирюса). Yn ei rhan isaf fe'i gelwir yn Ona hefyd. Ei hyd yw 1,012 km, gyda basn 55,800 km².

Cwrs[golygu | golygu cod]

Mae tarddleoedd yr afon yn gorwedd yn ne-orllewin Oblast Irkutsk yn Siberia, 2,500 meter i fyny ar lethrau gogleddol Mynyddoedd Sayan. Oddi yno mae'r afon yn llifo ar gwrs gogleddol i Lwyfandir Canol Siberia. Mae'r Rheilffordd Traws-Siberia yn ei chroesi yn Biryusinsk, ger Tayshet lle mae Rheilffordd Baikal Amur yn cychwyn. Wedyn mae Afon Biryusa yn troi i'r gogledd-orllewin i ymuno yn y pen draw ag Afon Chuna i ffurfio Afon Taseyeva, sy'n un o lednentydd Afon Angara.

Llên gwerin[golygu | golygu cod]

Yn llên gwerin Rwsia ceir sawl cerdd am yr afon hon, er enghraifft "Biryusinka".[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Biryusinka" (Rwseg)
Eginyn erthygl sydd uchod am Oblast Irkutsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.