Afon Beas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Beas o Van Vihar, Manali

Afon yn y Punjab yn India yw Afon Beas. Mae'n tarddu ym mynyddoedd yr Himalaya yn nghanolbarth Himachal Pradesh, ac yn llifo am 290 milltir i ymuno ag Afon Sutlej yng ngorllewin y Punjab. Yr hen enw ar yr afon oedd Arjiki neu Vipas, a galwai'r Groegiaid hi yr Hyphasis.

Yr afon yma oedd y man pellaf i'r dwyrain i Alecsander Fawr gyrraedd yn ystod ei ymgyrchoedd. Gwrthryfelodd ei fyddin yma, a mynnu cael troi yn ôl.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

Flag of India.svg Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.