Afon Aude
Oddi ar Wicipedia
Afon Aude yn llifo heibio i furiau Carcassonne
Afon sy'n llifo trwy départements Aude a Pyrénées-Orientales yn rhanbarth Languedoc-Roussillon, yn ne Ffrainc, yw Afon Aude. Ei hyd yw 223 km. Rhydd ei henw i département Aude.
Gorwedd tarddle Afon Aude ar lethrau mynyddoedd Carlitte, yn nwyrain y Pyreneau. Mae hi'n llifo trwy'r bryniau i gyrraedd dinas hanesyddol Carcassonne ac wedyn yn llifo i wastadir is ar ôl Limoux i aberu wedyn yn y Môr Canoldir.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: