Afon Anui

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Anui ger Soloneshnoye.

Afon yn Siberia, Rwsia, yw Afon Anui neu Anuy (Rwseg: река́ Ану́й). Mae'n llednant chwith 327 km o Afon Ob sy'n tarddu ym Mynyddoedd Altai ac sy'n llifo trwy ranbarth Crai Altai a Gweriniaeth Altai i ymuno ag Afon Ob ger Biysk.

Ceir Ogof Denisova ar lan yr afon, sy'n un o'r cymharol ychydog o safleoedd yn y byd lle ceir tystiolaeth o bresenoldeb dyn Neanderthal.