Afon Alwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Alwen yn llifo trwy Bentre-llyn-cymmer.

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Alwen. Mae'n tarddu yn Llyn Alwen ar Fynydd Hiraethog yn sir Conwy. O'r llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i groesi'r A543 cyn cyrraedd Cronfa Alwen.

Yn fuan wedi gadael y llyn, llifa heibio Pentre-llyn-cymmer, lle mae Afon Brenig yn ymuno â hi, ac yn mynd ymlaen tua'r de-ddwyrain heibio Llanfihangel Glyn Myfyr a Betws Gwerful Goch cyn i Afon Ceirw ymuno â hi ychydig i'r dwyrain o bentref Maerdy. Mae Afon Alwen yn ymuno ag Afon Dyfrdwy ychydig i'r gogledd o bentref Cynwyd.

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill