Afon Aisne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Aisne yn Soissons.

Llifa Afon Aisne trwy ogledd-ddwyrain Ffrainc. Mae'n un o lednentydd afon Oise. Enwir département Aisne ar ei hôl. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid yng Ngâl roedd hi'n cael ei hadnabod fel yr Axona.

Gorwedd tarddle'r Aisne yng nghoedwig Argonne, yn Rembercourt-Sommaisne ger Sainte-Menehould yn Champagne-Ardenne. Llifa i gyfeiriad y gogledd ac wedyn i'r gorllewin trwy départements Aisne, Marne a Meuse i ymuno yn Afon Oise ger Compiègne. Ei hyd yw tua 290 km (180 milltir).

Ymladdwyd rhai o frwydrau mawr y Rhyfel Byd Cyntaf ar lannau Aisne.

Mae'r trefi a dinasoedd ar ei lan yn cynnwys Soissons, Aisne.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill