Aelod-wladwriaethau NATO

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Aelodau NATO)
Aelod-wladwriaethau NATO
Aelodau NATO (mewn glas).
Enghraifft o'r canlynolcollective Edit this on Wikidata
Mathaelod-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nato.int/cps/en/natohq/nato_countries.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llinell amser o ymaelodaethau gwledydd NATO. Dynodir gwledydd oedd yn aelodau NATO yn barod ar y pryd gan las tywyll. Dynodir aelodau newydd gan las golau.

Cynghrair milwrol sydd yn cynnwys 32 o aelod-wladwriaethau o Ogledd America ac Ewrop yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Y ddwy aelod o Ogledd America yw Canada a'r Unol Daleithiau. Mae gan bob un o'r aelodau luoedd milwrol, er nad oes gan Wlad yr Iâ fyddin arferol (ond mae ganddi gwylwyr y glannau milwrol ac uned fechan o filwyr ar gyfer ymgyrchoedd i gadw'r heddwch). Mae gan dri o aelodau NATO arfau niwclear: Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau.

Aelod-wladwriaethau yn ôl dyddiad eu hymaelodaeth[golygu | golygu cod]

Dyddiad Gwlad Ehangiad Nodiadau
4 Ebrill 1949 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Sefydlwyr
Baner Canada Canada
Baner Denmarc Denmarc Nid yw aelodaeth Denmarc o NATO yn cynnwys Føroyar na'r Ynys Las, yn wahanol i'w haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.
Baner Ffrainc Ffrainc Gadawodd Ffrainc reolaeth filwrol gyfunol NATO ym 1966 i ddilyn system amddiffyn annibynnol ond dychwelodd at aelodaeth lawn ar 4 Ebrill 2009.
Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ Ymunodd Gwlad yr Iâ, yr unig aelod sydd heb fyddin sefydlog, ar yr amod ni fydd rhaid iddi sefydlu un. Er hyn, roedd yn aelod pwysig oherwydd ei leoliad daearyddol strategol yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi wylwyr y glannau ac yn ddiweddar llu cadw'r heddwch gwirfoddol, a hyfforddir yn Norwy ar gyfer NATO.
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Baner Norwy Norwy
Baner Portiwgal Portiwgal
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
18 Chwefror 1952 Baner Groeg Groeg Cyntaf Tynodd Gwlad Groeg ei luoedd yn ôl o strwythur rheolaeth filwrol NATO rhwng 1974 a 1980 o ganlyniad i densiynau rhyngddi a Thwrci yn sgîl goresgyniad Cyprus gan Dwrci ym 1974.
Baner Twrci Twrci
9 Mai 1955 Baner Yr Almaen Yr Almaen Ail Ymaelododd fel Gorllewin yr Almaen; adunodd â Saarland ym 1957 a thiriogaethau Berlin a'r cyn-Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) ar 3 Hydref 1990. Roedd y DDR yn aelod o Gytundeb Warsaw, 1956-1990.
30 Mai 1982 Baner Sbaen Sbaen Trydydd
12 Mawrth 1999 Baner Tsiecia Tsiecia Pedwerydd Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
Baner Hwngari Hwngari Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
29 Mawrth 2004 Baner Bwlgaria Bwlgaria Pumed Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Baner Estonia Estonia Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Baner Latfia Latfia Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Baner Lithwania Lithwania Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Baner Rwmania Rwmania Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
Baner Slofacia Slofacia Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
Baner Slofenia Slofenia Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
1 Ebrill 2009 Baner Albania Albania Chweched Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1968.
Baner Croatia Croatia Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
5 Mehefin 2017 Baner Montenegro Montenegro Seithfed Cyn-weriniaeth Iwgoslafia
27 Mawrth 2020 Baner Gogledd Macedonia Gogledd Macedonia Wythfed Cyn-weriniaeth Iwgoslafia
4 Ebrill 2023 Baner Y Ffindir Y Ffindir Nawfed
7 Mawrth 2024 Baner Sweden Sweden Degfed

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]