Adygea
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Adyghea)
Un o weriniaethau Rwsia a deiliad ffederal a amgylchynir yn gyfangwbl gan Krasnodar Krai yng ngorllewin Rwsia yw Gweriniaeth Adygea (Rwseg: Респу́блика Адыге́я, IPA: adɨ'ɟeja; Adygheg: Адыгэ Республик, Adyge Respublik; Respublika Adygeya. Mae ffurfiau eraill o droslythrennu enw'r weriniaeth yn cynnwys Adygeya ac Adyghea.
Sefydlwyd y weriniaeth ar 27 Mai 1922. Mae ganddi boblogaeth o 447,109 (2002). Y brifddinas yw Maykop.
Gorwedd Adygea yn ne-ddwyrain Ewrop yn nhroedfryniau gogleddol mynyddoedd y Cawcasws; ceir gwastadeddau yn y gogledd a mynyddoedd yn y de, gyda 40% o'r diriogaeth wedi'i gorchuddio â choedwigoedd. Arwynebedd: 7,600 km². Y pwynt uchaf yw Mynydd Chugush (3,238 m).
Aslan Tkhakushinov yw arlywydd y wlad ers 2007.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Rwseg) Gwefan swyddogol Adygea
- (Rwseg) Amgueddfa Genedlaethol Gweriniaeth Adygea