Adrie Visser
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Adriana Visser |
Dyddiad geni | 19 Hydref 1983 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac & Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Sbrint |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2004 2005-2006 2007 |
Farm Frites-Hartol AA Cycling Team Team DSB Bank |
Prif gampau | |
Pencampwr yr Iseldiroedd | |
Golygwyd ddiwethaf ar 2 Hydref, 2007 |
Seiclwraig ffordd proffesiynol Iseldiraidd ydy Adrie Visser (ganwyd 19 Hydref 1983, Hoorn. Yr Iseldiroedd). Mae Visser yn byw yn Wieringerwerf erbyn hyn.
Dechreuodd ei gyrfa proffesiynol yn 2001, gorffenodd yn ail ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr Iseldiroedd, daeth yn bmed ym mhencampwriaethau'r Treial Amser. Enillodd ei theitlau cyntaf ar y trac yr un flwyddyn, gan ddod yn Bencampwriaeg Cenedlaethol Treial Amser 500 m a Sbrint, cymerodd y fedal arian yn y ras bwyntiau. Ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Trexlertown, Pennsylvania, Yr Unol Daleithiau, daeth yn seithfed yn y teial amser 500 m ac wythfed yn y pursuit a'r sbrint.
Enillodd y fedal efydd ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Stuttgart yn 2003. Enillodd Bencampwriaethau Cenedlaethol Ras Bwyntiau, Scratch a Pursuit hefyd. Enillodd ei chystadleuaeth cyntaf yn rasus Cwpan y Byd Trac yn Sydney, gan ennill y ras scratch, daeth yn 10fed yn yr un ras ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Melbourne wythnos yn ddiweddarach. Ei champwaith cyntaf ar y ffordd pan enillodd y grys las ar gyfer sbrintiau a enillodd yn ras y Eumakumeen Bira yn Mehefin 2004. Mis yn ddiweddarach enillodd ei ras ffordd cyntaf yn Alblasserdam.
Yn ôl ar y trac yn ddiweddarach yn 2004, enillodd dri teitl cenedlaethol ar y trac unwaith eto (pwyntiau, pursuit a scratch). Cynyrchiolodd Yr Iseldiroedd yn ras bwyntiau Gemau Olympaidd 2004, gan ddarfod yn yr 11fed safle.
Ym Mhencampwriaethau'r Byd ym Manceinion yn 2005, gorffennodd tu allan i'r medalau yn y bedwerydd safle yn y ras scratch, pumed yn y ras bwyntiau a seithfed yn y pursuit. Enillodd rasus ffordd Omloop Middag-Humsterland, Profronde van Stiphout a ras yn Dalen yn Mehefin 2005. Oherwydd hyn, dewiswyd hi i gynyrchiolo ei gwlad ym Mhencampwriaetha Ras Ffordd y Byd am y tro cyntaf, a gorffennodd yn 84ydd safle yn y ras a gynhaliwyd yn Madrid. Enillodd ei ail ras yng Nghwpan y Byd Trac ym Manceinion, gan enill y ras scratch unwaith eto cyn mynd ymlaen i amddiffyn ei thair teitl cenedlaethol.
Dechreuodd 2006 yn dda wrth i Visser enill ras Egmond-Pier-Egmond ym mis Ionawr. Enillodd ras ffordd Oud Vossemeer ym mis Mawrth. Gorffennodd yn 7fed ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd y Byd, a 9fed yn y Treial Amser. Rhwng 15 Gorffennaf a 1 Awst enillodd bedwar ras ffordd yn (Ochten, Barendrecht, Alblasserdam a Surhuisterveen). Dewisodd hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Egon van Kessel, Visserr i gynyrchioli ei gwlad unwaith eto ym Mhencampwriaethau Ras y Ffordd y Byd yn dilyn y canlyniadau da yma.
Ar y 31 Mawrth 2007, cymerodd Visser y fedal efydd yn ras scratch race ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Palma de Mallorca. Pythefnos yn ddiweddarch enillodd ras Gwpan y Byd Ffordd gan groesi'r linell gyntaf yn y Ronde van Drenthe.
Canlyniadau[golygu | golygu cod]
- 2001
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr Iseldiroedd
- 1af Treial Amser 500 m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 5ed Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser yr Iseldiroedd
- 2il Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- Treial Amser 500 m, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2003
- 3ydd Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2004
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Cymal Sydney, Ras Scratch Cwpan y Byd Trac
- 1af Crys Las, Ras Ffordd Eumakumeen Bira
- 1af Ras Ffordd Alblasserdam
- 2005
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
- 1af Cymal Manceinion, Ras Scratch Cwpan y Byd Trac
- 2006
- 1af Ras Ffordd Egmond-Pier-Egmond
- 1af Ras Ffordd Oud Vossemeer
- 1af Ras Ffordd Ochten
- 1af Ras Ffordd Barendrecht
- 1af Ras Ffordd Alblasserdam
- 1af Ras Ffordd Surhuisterveen
- 7fed Pencampwriaethau Ras Ffordd y Byd
- 9fed Pencampwriaethau Treial Amser y Byd
- 2007
- 1af Ras Cwpan y Byd Ffordd, Ronde van Drenthe
- 3ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Iseldireg) Adrie Visser (website)
- (Iseldireg) Team DSB Bank