Aderyn drycin y graig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Aderyn-Drycin y Graig)
Aderyn drycin y graig
Aderyn drycin y graig ar ei hadain
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Procellariiformes
Teulu: Procellariidae
Genws: Fulmarus
Rhywogaeth: F. glacialis
Enw deuenwol
Fulmarus glacialis
(Linnaeus, 1761)
Mae'r wy.

Mae Aderyn drycin y graig (Fulmarus glacialis) yn aelod o deulu'r Procellariidae, yr Adar drycin.

Mae gan Aderyn drycin y graig ddosbarthiad eang o gwmpas glannau gogleddol Ewrop, Asia ac America. Er fod yr aderyn yma yn edrych yn debyg i wylan ar yr olwg gyntaf, nid oes unrhyw berthynas rhyngddynt.

Mae'n nythu ar greigiau gerllaw'r môr, ac yn dodwy un wy gwyn. Mae'r cywion. a'r oedolion pan maent yn nythu, yn medru cyfogi cymysgedd olewllyd o'r stumog ar ben unrhyw ddyn neu anifail sy'n dod yn rhy agos. Yn y gaeaf maent yn byw ar y môr agored. Eu prif fwyd yw pysgod.

Mae'r aderyn rhwng 43 a 52 cm o hyd a 101–117 cm ar draws yr adenydd. Gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y gwylanod trwy eu dull o hedfan, heb blygu'r adenydd. Mae'r pig hefyd yn wahanol iawn i un gwylan os gwelir yr aderyn yn weddol agos.

Tua 60 mlynedd yn ôl yr oedd Aderyn drycin y graig yn aderyn gweddol brin yng Nghymru, ond erbyn hyn mae'n gyffredin yn yr haf lle bynnag y mae creigiau addas i nythu ger glan y môr. Credir fod y cynnydd yn ei nifer yn rhannol o leiaf oherwydd fod mwy o bysgota ar y môr yn golygu fod mwy o weddillion pysgod ar gael iddynt.

Aelod o Llên Natur yn dangos nyth Aderyn drycin y graig dof iawn yn nythu ar glogwyn yn Ynysoedd Erch.

Enwau[golygu | golygu cod]

  • Pedryn y graig

Mae cyfnod Gwyl Sant Pedr (29 Mehefin) yn rhoi esgus son am deulu'r Adar drycin. Enw arall ar y teulu yw'r "pedrynnod" (petrels) sydd yn cyfeirio at eu gallu i hofran fodfeddi uwchben y tonnau wrth hel eu tamaid ar y môr mawr. Mae'n tynnu cymhariaeth â Phedr a'i allu yntau, unigryw ymhlith yr Apostolion, i gerdded ar y dŵr.

  • Fulmar (Saesneg)

Daw'r enw Saesneg fulmar yn wreiddiol o air y Llychlynwyr foul-mar, a fenthycwyd yn ddiweddarach gan bobl Ynysoedd Hiort neu St. Kilda a siaradai'r Aeleg. Gwylan ddrewllyd oedd ystyr fulmar ond nid gwylan mohoni - yn wir, mae'n perthyn yn agosach i albatros nac i wylan.

  • Enwau eraill

Mae'r prinder enwau eraill yn adlewyrchu hanes diweddar yr aderyn yng Nghymru: ffwlmar, aderyn drycin, gwylan y graig, Fulmarus glacialis (gwyddonol)

Adnabod[golygu | golygu cod]

Wrth i chi fynd am dro o gwmpas clogwyni môr Cymru, edrychwch am "wylan" ychydig yn fwy gosgeiddig, ychydig yn fwy hyderus na'r rhelyw wrth iddi chwarae'n ddeheuig ar yr awelon. Chwiliwch am un gwynnach na gwyn ag iddi adenydd, ar led, fel bwa heb blygiad na gwyriad o un pen blaen i'r llall fel petai hi'n gwisgo'i chôt yn syth o'r wardrob heb dynnu'r cambren! Os cewch olwg agosach, mi welwch ei llygad du, a'i phig wedi ei wneud fel petai o ddarnau jig-so nad ydynt prin yn ffitio i'w gilydd. Dyna i chi bedryn y graig[1]

Ymlediad[golygu | golygu cod]

Dros o leiaf bedair canrif, ac am gyfnod llawer hwy, hyd orau y gwyddom, conglfaen economi pobl Ynysoedd Hiort oedd y pedryn. Roedd y diwylliant ynghlwm wrtho yn unigryw gan nad oedd yr un boblogaeth arall o'r adar hyn i bob pwrpas yn bodoli yng ngogledd yr Iwerydd tan ail hanner y 19eg ganrif. Ar raffau y cafodd yr adar eu cynaeafu oddi ar y clogwyni gan yr ynyswyr, a hynny yn eu miloedd. Disgrifiodd Martin Martin, croniclwr yr ardal[2] fod "gan y gymuned ddwy raff bedwar gwrhyd (fathom) ar hugain o hyd.... dringai'r dynion i lawr a mawr oedd y cynhaeaf o wyau a chyrff a ddeuai i'w rhan" (cyfieithiad). Wrth ori eu hunig wy ar eu nythfa serth, cyfogai - na, saethai - yr adar gynnwys drewllyd eu 'stumogau at y rhai a ddeuai oddi uchod ar y rhaffau. Dychmygwch y drewdod ar grysau a throwseri wrth i'r hogiau noswylio. Daeth y diwydiant hynafol unigryw, a'r diwylliant ynghlwm wrtho, i ben ar 30 Awst 1930 gyda'r fudfa olaf a orfodwyd ar y boblogaeth gan y Llywodraeth Brydeinig "er ei lles". Stori arall yw honno.

Ond yn yr un cyfnod digwyddodd ddeiaspora (o fath) i'r pedrynnod hefyd. Tua 1878, am resymau nad ydynt yn gwbl hysbys hyd heddiw, dechreuodd yr adar nythu ar ynysoedd eraill gan ymledu nes iddynt gyrraedd Ynys Manaw yn 1930. Cafwyd nyth cyntaf Cymru yn 1945 ar Ben y Gogarth, Llandudno, a chofir y cyffro ddiwedd y 1970au pan gafwyd y parau cyntaf yn nythu ar lethrau'r Friog yn Sir Feirionnydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 llennatur.cymru; gwefan Llên Natur; adalwyd 5 Ionawr 2019.
  2. Martin Martin [1] (c. 1695)A Description of the Western Isles of Scotland cyh. xxx