Aderyn-Drycin Du
| Aderyn-Drycin Du | |
|---|---|
| Aderyn-Drycin Du | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Procellariiformes |
| Teulu: | Procellariidae |
| Genws: | Puffinus |
| Rhywogaeth: | P. griseus |
| Enw deuenwol | |
| Puffinus griseus (Gmelin, 1789) |
|
Mae'r Aderyn-Drycin Du (Puffinus griseus) yn aelod gweddol fawr o ran maint o'r teulu Procellariidae o adar môr.
Mae tua 40-51 cm o hyd a 94-19 cm ar draws yr adenydd. Nid yw'n hollol ddu o ran lliw, ond mae'n dywyllach na'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau eraill o aderyn-drycin. Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhan ddeheuol y Cefnfor Tawel, yn arbennig o gwmpas Seland Newydd, Ynysoedd y Falkland a Tierra del Fuego. Wedi gorffen magu'r cywion, mae'r adar yn symud tua'r gogledd, ar hyd ochr orllewinol y Cefnfor Tawel a Chefnfor Iwerydd. Wedi cyrraedd cyn belled a'r Arctig, maent yn troi tua'r dwyrain ac yna tua'r de, gan ddychwelyd i'r ynysoedd lle maent yn nythu wedi gwneud cylchdaith enfawr.
Gellir gweld ambell un oddi ar arfordir Cynru yn yr hydref, er nad yw'n aderyn cyffredin yma.