Adeilad yr Elysium, Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Adeilad yr Elysium
Mathsinema Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.624365°N 3.941676°W Edit this on Wikidata
Map

Hen sinema a agorwyd ar Stryd Fawr Abertawe ar 11 Ebrill, 1914 ydy Adeilad yr Elysium. Eisteddle sengl a gynlluniwyd gan gwmni Ward & Ward o'r Strand, Llundain ydoedd ac roedd ganddo ffasâd Edwardaidd. Roedd yno 900 o seddau ynddo. Lleolwyd Neuadd Gweithwyr Dociau Abertawe yn yr adeilad, a bu'n gartref i'r Blaid Lafur lleol.

Yn ystod y 1920au a'r 30au, roedd neuadd ddawns yr adeilad yn fan poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth dawnsio band, tra bo'r sinema'n parhau i fod yn llwyddiannus uwch ben. Arhosodd y sinema a'r neuadd lafur ar agor trwy gydol yr Ail Rhyfel Byd, gan gynnwys pan gafodd y ddinas ei bomio'n drwm gan y Luftwaffe. Y Stryd Fawr oedd canolbwynt y ddinas bryd hynny, ac ar ôl cyfnod o dridiau o fomio, dim ond yr Elysium ac un adeilad arall oedd wedi goroesi. Pan ddaeth y rhyfel i ben, ail-ddatblygwyd canol y ddinas gan ei symud i Ffordd y Brenin gan adael yr Elysium ar gyrion y ddinas. Oherwydd hyn, lleihaodd y nifer o bobl a aeth i'r Elysium. O ganlyniad, caeodd y sinema ym 1960 a daeth yn neuadd fingo annibynnol tan 1994. Parhaodd y Blaid Lafur ar lawr waelod yr adeilad tan 1998. Ers hynny, mae'r adeilad wedi cael ei fordio er mwyn atal tresmaswyr.

Mae gan yr adeilad baneli Larvikite du ar ei du blaen.[1]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [2008] "1", Swansea's Heritage (yn Saesneg). The History Press, tud. 25. ISBN 9780752445595  “Moving further along High Street one sees the currently forlorn shell of the Elysium Building. Formerly the Rialto Cinema, a bingo hall and latterly the headquarters of the Labour Party in Swansea it is of interest to the urban geologist. This is because of a panel of black Larvikite in its frontage.”