Adam Shankman
Oddi ar Wicipedia
Mae Adam Michael Shankman (ganed 27 Tachwedd, 1964) yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm Americanaidd. Mae ef hefyd yn actor, dawnsiwr ac yn feirniad ar gyfresi 3 & 4 o So You Think You Can Dance. Cyfarwyddodd A Walk to Remember, Bringing Down the House, The Pacifier, Cheaper by the Dozen 2 a Hairpsray. Mae ef hefyd wedi dawnsio mewn fideos ar gyfer Paula Abdul a Janet Jackson. Roedd Shankman hefyd wedi darparu'r coreograffeg ar gyfer un o deithiau'r Spice Girls.