Adam Sedgwick

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adam Sedgwick

Daearegwr o Sais oedd Adam Sedgwick (22 Mawrth, 1785 - 27 Ionawr, 1873), a aned yn Dent, Cumbria. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Un o'i diwtoriaid yno oedd y Cymro Thomas Jones.

Yn 1835 daeth i Ogledd Cymru a llwyddodd i ddadansoddi a chategoreiddio haenau creigiau sy'n cynnwys ffosilau ynddynt; enwodd yr hynaf yn Gambriaidd (o Cambria, enw Cymru mewn Lladin).

Astudiodd yn ogystal greigiau eraill mewn ardaloedd fel Dyfnaint (lle enwodd y cyfnod Defonaidd), Ardal y Llynnoedd a'r Alpau. Ond er gwaethaf ei ddarganfyddiadau chwyldroadol am oedran y Ddaear, gwrthodai dderbyn damcaniaethau Charles Darwin ar esblygiad.

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill