Ada Lovelace

Oddi ar Wicipedia
Ada Lovelace
FfugenwA. A. L. Edit this on Wikidata
GanwydAugusta Ada Byron Edit this on Wikidata
10 Rhagfyr 1815 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1852 Edit this on Wikidata
o canser y groth Edit this on Wikidata
Marylebone Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethmathemategydd, rhaglennwr, bardd, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, cyfieithydd, ysgrifennwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadCharles Babbage Edit this on Wikidata
TadGeorge Gordon Byron Edit this on Wikidata
MamAnne Isabella Byron Edit this on Wikidata
PriodWilliam King-Noel Edit this on Wikidata
PlantAnne Blunt, Ralph King-Milbanke, Byron King-Noel Edit this on Wikidata
llofnod

Mathemategydd ac awdur o Loegr oedd Augusta Ada King, Iarlles Lovelace (née Byron; 10 Rhagfyr 181527 Tachwedd 1852), a adwaenir yn bennaf am ei gwaith ar gyfrifiadur Charles Babbage: the Analytical Engine. Gwelir yn ei nodiadau yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[1][2]


Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Unig ferch gyfreithiol y bardd George, Arglwydd Byron a'i wraig Anne Isabella (née Noel) oedd Ada ac fe'i ganwyd ar 10 Rhagfyr 1815.[3] Plant llwyn a pherth oedd gweddill plant Byron, a hynny gan ferched eraill, y tu allan i'r briodas.[4] Fis wedi ei geni, gwahanodd Byron ac Anne gan droi ei gefn ar Loegr bedwar mis yn ddiweddarach, heb ddod yn ôl. Yn naturiol, teimlai Anne yn chwerw tuag at ei chyn-ŵr Byron, a cheisiodd arwain ei merch Ada ar hyd llwybr gwahanol, amgenach i'w thad: mathemateg a rhesymeg. Ond teimlai Ada'n agos ato drwy gydol ei hoes a chafodd ei chladdu wrth ei ochr wed iddi farw.

Ei gwaith[golygu | golygu cod]

Paentiad o Ada gan Margaret Sarah Carpenter (1836)

Cyfarfu Ada a Babbage ym Mehefin 1833, drwy drefniant ffrind i'r ddau, sef Mary Somerville. Ymhen ychydig wythnosau gwahoddodd Babbage Ada i weld prototeip o'r peiriant a elwir yn Difference Engine.[5] Rhyfeddodd at y peiriant a cheisiodd dreulio cymaint o amser a phosib gyda Babbage. Gwnaeth hithau gryn argraff arno yntau, a nododd yn arbennig ei deallusrwydd a'i meddwl dadansoddol. Galwodd hi'n The Enchantress of Numbers ac yn 1843 sgwennodd:

Forget this world and all its troubles and if possible its multitudinous Charlatans—every thing in short but the Enchantress of Numbers.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fuegi & Francis 2003, tt. 16–26.
  2. Phillips, Ana Lena (Tach-Rhag 2011). "Crowdsourcing gender equity: Ada Lovelace Day, and its companion website, aims to raise the profile of women in science and technology". American Scientist 99 (6): 463.
  3. Ada Lovelace Biography, biography.com
  4. Toole, Betty Alexandra (1987), "Poetical Science", The Byron Journal 15: 55–65, doi:10.3828/bj.1987.6.
  5. Toole 1998, tt. 36–38.
  6. Toole 1998, t. xi.