Actwari

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un sy'n arbenigo mewn effeithiau ariannol ansicrwydd a pheryglon yw actwari. Mae actwarïaid yn deall systemau diogelu ariannol yn drylwyr, gan ddefnyddio modelau mathemategol.[1]

Mae actwarïaid yn cloriannu tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau, ac yn meintioli'r canlyniadau a ddaw ohonynt. Eu hamcan yw lleihau'r colledion ariannol a emosiynol a ddaw yn sgîl digwyddiadau anymunol. Er enghraifft, gan nad oes modd osgoi marwolaeth, mae'n ddefnyddiol ceisio lleihau effeithiau ariannol marwolaeth. Mae ymafael â phroblemau o'r fath yn gofyn meistrolaeth o reoli asedau, rheoli rhwymedigaethau a phrisiad. Er mwyn llunio a chynnal cynlluniau sy'n rheoli risg, mae angen sgiliau dadansoddol yn ogystal â gwybodaeth ym meysydd busnes, ymddygiad dynol, a systemau gwybodaeth.[2]

Yn 2002 & 2009, casgliad arolwg yn y Wall Street Journal oedd mai actwariaeth oedd y swydd ail orau yn Unol Daleithiau America.[3][4] Defnyddiodd yr arolwg chwe maen prawf: awyrgylch, incwm, rhagolygon cyflogi, gofynion corfforol, sicrwydd a straen.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Trowbridge 1989, p. 7
  2. Bean1, Be An Actuary 2005
  3. Lee 2002
  4. Needleman 2009
Accountancy template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill