Acropolis

Oddi ar Wicipedia
Yr Acropolis

Caer dinesig neu amddiffynfa sydd wedi’i leoli ar fryn caregog uwchben dinas Athen, Gwlad Groeg, yw'r Acropolis. Gellid gweld sawl adeilad hynafol o bwys hanesyddol a phensaernïol yno.

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl wedi dechrau byw ar y bryn hwn cyn belled yn ôl a’r bedwaredd mileniwm CC. Ymhlith yr adeiladau o bwys a geir yma yw'r Parthenon, y Propylaia, yr Erechtheion a theml Athena Nike.