Achos Paul Chambers

Oddi ar Wicipedia
Achos Paul Chambers
Enghraifft o'r canlynolachos troseddol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Chambers (canol), gyda Al Murray (chwith) a Stephen Fry (dde) y tu allan i'r Uchel Lys ar 27 Mehefin 2012.

Achos llys ynghylch sylw a gyhoeddwyd ar wefan Twitter yn 2010 oedd achos Paul Chambers neu achos jôc Twitter.

Yn ystod gaeaf 2009–2010, aflonyddodd tywydd oer fywyd ar draws gogledd Lloegr. Roedd Maes Awyr Robin Hood yn un o nifer o feysydd awyr a wnaeth ganslo ehediadau. Ar 6 Ionawr 2010,[1] postiodd Paul Chambers neges ar Twitter:

Crap! Robin Hood airport is closed. You've got a week and a bit to get your shit together otherwise I'm blowing the airport sky high!![2]

Cafodd ei arestio wrth ei waith mewn swyddfa gan heddlu gwrth-derfysgaeth wythnos yn ddiweddarach,[1] am wneud bygythiad o fomio,[2] wedi i reolwr o'r maes awyr nad oedd ar ddyletswydd canfod y neges wrth wneud chwiliad ar-lein.[1] Atafaelwyd ei ffôn symudol, ei liniadur, a'i ddisgyrrwr caled yn ystod chwiliad o'i dŷ.[2] Cafodd ei gyhuddo o "ddanfon neges electronig gyhoeddus sy'n anferthol o dramgwyddus neu o gymeriad anweddus, anllad neu fygythiol yn groes i Ddeddf Cyfathrebu 2003".[1][3] Ar 10 Mai, cafwyd yn euog gan lys ynadon Doncaster[1] a gorchmynnwyd iddo dalu £1,000 mewn dirwyon a chostau.[2] Collodd ei swydd o ganlyniad.[2]

Mae nifer wedi condemnio'r dyfarniad a'i alw'n annheg,[4][5][6] ac eraill wedi ei alw'n enghraifft o gamwedd cyfiawnder.[7]

Collodd Chambers apêl yn erbyn y dyfarniad yn Nhachwedd 2010. Clywodd y Barnwraig Jacqueline Davies ei apêl yn Llys y Goron, Doncaster; dywedodd bod y neges yn cynnwys "bygythiad" (menace) a rhaid bod Chambers wedi sylweddoli y byddai'r neges yn cael ei hystyried o ddifrif.[8] Ymatebodd miloedd o ddefnyddwyr Twitter trwy ail-bostio neges Chambers gan gynnwys y hashnod #iamspartacus, gan gyfeirio at y ffilm Spartacus.[9][10]

Ar 8 Chwefror 2012, ymddangosodd Chambers yn yr Uchel Lys Barn i ofyn i'r barnwyr wrthdroi'r dyfarniad.[11]

Cynigodd y cyflwynydd teledu Stephen Fry i dalu costau cyfreithiol Chambers.[12][13]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Wainwright, Martin (10 May 2010). "Wrong kind of tweet leaves air traveller £1,000 out of pocket - UK news - The Guardian". Guardian. London. Cyrchwyd 17 September 2010.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Chambers, Paul (11 May 2010). "My tweet was silly, but the police reaction was absurd - The Guardian". Guardian. London. Cyrchwyd 17 September 2010.
  3. http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2003/21/section/127
  4. "The Twitter "Bomb Hoax" case: worse than we thought?". 2010-03-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-12. Cyrchwyd 19 September 2010.
  5. Mitchell, David (16 May 2010). "Sacked and fined £1,000 for a joke about an airport? - David Mitchell column - The Observer". Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-21. Cyrchwyd 19 September 2010.
  6. Cohen, Nick (19 September 2010). "Twitter and terrifying tale of modern Britain - The Observer". Guardian. London. Cyrchwyd 19 September 2010.
  7. "Jack of Kent: Why the Paul Chambers case matters". Blogger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-21. Cyrchwyd 19 September 2010.
  8. Wainwright, Martin (2010-11-11). "Twitter joke trial: Paul Chambers loses appeal against conviction". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 November 2010.
  9. Siddique, Haroon (2010-11-12). "#IAmSpartacus campaign explodes on Twitter in support of airport joker". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 November 2010.
  10. "Thousands of Twitter users express support for Chambers". 2010-11-12. Cyrchwyd 12 November 2010.
  11. http://www.guardian.co.uk/law/2012/feb/08/judgment-reserved-twitter-threat-appeal
  12. Siddique, Haroon (12 November 2010). "#IAmSpartacus campaign explodes on Twitter in support of airport joker". The Guardian. London.
  13. "Stephen Fry says British judges don't understand Twitter". BBC News. London. 8 February 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-23. Cyrchwyd 2012-04-02.