Diflaniad April Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Achos April Jones)
Diflaniad April Jones
Enghraifft o'r canlynolllofruddiaeth, herwgipio Edit this on Wikidata
Dyddiad1 Hydref 2012 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadMachynlleth Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Achos o blentyn a gafodd ei llofruddio yw llofruddiaeth April Jones. Merch pum mlwydd oed o Fachynlleth, Powys, Cymru, oedd April a ddiflannodd ar 1 Hydref 2012.

Hanes yr achos[golygu | golygu cod]

Cafodd ei gweld olaf yn mynd i mewn i fan am tua 19:00 tra'n chwarae gyda ffrindiau ar ystad Bryn-y-Gog, Machynlleth.[1] Am 22.30, datganodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod hi ar goll.[1] Cafodd dyn lleol 46 oed ei arestio ar 2 Hydref. Trannoeth, cadarnhaodd yr heddlu enw'r dyn, Mark Bridger, a chyhoeddwyd llun ohono, cam anarferol.[1]

Ar brynhawn 3 Hydref gwnaed apêl gyhoeddus gan fam April, Coral Jones, am wybodaeth.[2] Ar 4 Hydref cyhoeddodd yr heddlu bod gan April barlys yr ymennydd.[3]

Cafwyd archwiliad fforensig o Land Rover Mark Bridger, a'i gartref diweddaraf, ffermdy yng Ngheinws.[4] Ar 6 Hydref, cyhuddwyd Mark Bridger o lofruddiaeth, cipio plentyn, a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.[5] Ymddangosodd Bridger yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 8 Hydref i gadarnahu ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad.[6] Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 14 Ionawr 2013, ond dywedodd ei fargyfreithiwr i'r llys taw Bridger oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am farwolaeth April Jones.[7][8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Diflaniad April Jones: Llinell amser. Golwg360 (3 Hydref 2012). Adalwyd ar 6 Hydref 2012.
  2.  Apêl ddagreuol mam April. BBC (3 Hydref 2012). Adalwyd ar 6 Hydref 2012.
  3.  April Jones: Y diweddaraf. Golwg360 (4 Hydref 2012). Adalwyd ar 6 Hydref 2012.
  4.  Cyhuddo Mark Bridger o lofruddio April Jones. BBC (6 Hydref 2012). Adalwyd ar 6 Hydref 2012.
  5.  April Jones: Mark Bridger wedi ei gyhuddo o’i llofruddio. Golwg360 (6 Hydref 2012). Adalwyd ar 6 Hydref 2012.
  6.  April: Bridger yn crio wrth ymddangos o flaen llys. Golwg360 (8 Hydref 2012). Adalwyd ar 8 Hydref 2012.
  7.  Mark Bridger yn gwadu llofruddio April Jones. BBC (14 Ionawr 2013). Adalwyd ar 15 Ionawr 2013.
  8.  April Jones: Mark Bridger yn pledio’n ddieuog. Golwg360 (14 Ionawr 2013). Adalwyd ar 15 Ionawr 2013.