Achille Compagnoni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dringwr Eidalaidd oedd Achille Compagnoni (26 Medi 1914 - 13 Mai 2009). Gyda Lino Lacedelli, ef oedd y cyntaf i gyrraedd copa K2.

Ganed ef yn Santa Caterina di Valfurva. Roedd yn aelod o'r tîm Eidalaidd dan arweiniad Ardito Desio a fu'n ceisio dringo K2, mynydd ail-uchaf y byd, ac ar 31 Gorffennaf 1954, cyrhaeddodd ef a Lacedelli y copa.

Yn ddiweddarach, bu ffrae rhwng Compagnoni a Walter Bonatti, aelod arall o'r tîm; haerai Compagnoni fod Bonatti wedi defnyddio rhan o'r ocsigen oedd i fod i'w gadw ar gyfer yr ymgais i gyrraedd y copa. Diweddodd hyn mewn achos cyfreithiol, a dyfarnodd y llys nad oedd Bonatti wedi gwneud hyn.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill