Absalom Roberts

Oddi ar Wicipedia
Absalom Roberts
Ganwyd1780 Edit this on Wikidata
Trefriw Edit this on Wikidata
Bu farw1864 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, crydd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Absalom Roberts (tua 17801864), sy'n adnabyddus yn bennaf fel awdur casgliad argraffiedig cynnar o'r Hen Benillion ac am y gerdd "Trawsfynydd".

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Absalom Roberts ym mhlwyf Trefriw yn Sir Gaernarfon (yn Sir Conwy rwan) tua'r flwyddyn 1780. Ychydig a wyddom am fanylion ei fywyd personol. Crydd oedd Absalom wrth ei alwedigaeth. Fel nifer o grefftwyr gwledig eraill yn y cyfnod hwnnw, crwydrai o gwmpas gogledd Cymru yn dilyn ei grefft. Dychwelodd i fyw yn Nyffryn Conwy ar ddiwedd ei oes gan ymsefydlu'n gyntaf ym mhlwyf Eglwys-bach ac wedyn yn Llanrwst lle bu farw yn 1864.[1][2]

Bardd a chasglwr[golygu | golygu cod]

Roedd Absalom yn gasglwr brwd o hen benillion Cymraeg a byddai'n eu lloffio ar hyd ei oes. Enillodd wobr am y casgliad gorau o hen benillion yn Eisteddfod Dinbych 1828. Yn 1845 cyhoeddwyd y casgliad yn y llyfr Lloches Mwyneidd-dra, sy'n cynnwys carolau Cymraeg ac englynion yn ogystal; ceir rhai o gerddi Absalom ei hun yn eu plith, yn cynnwys y gerdd "Trawsfynydd".[1] Mae arddull yr hen benillion a'r penillion telyn yn drwm ar y gerdd hon a cherddi eraill ganddo.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y gerdd "Trawsfynydd" mewn sawl blodeugerdd Gymraeg yn cynnwys:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Bedwyr Lewis Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Aberystwyth, 1965). Nodiadau.
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]