Abraham Ortelius
Oddi ar Wicipedia
Cartograffydd a hynafiaethydd o Fflandrys oedd Abraham Ortelius (1527 - 1598). Ei waith enwocaf yw'r Theatrum orbis terrarum, atlas o'r byd cyfan (fel y'i adnabuwyd ar y pryd) a gydnabuwyd fel y casgliad safonol o fapiau ar ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau'r ganrif olynol.
Teithiodd Ortelius yn eang i gasglu gwybodaeth a hynafiaethau. Cafodd swydd fel daearyddwr yn llys Philip II, brenin Sbaen, yn 1575.
Roedd yn adnabod yr hynafiaethydd Cymreig Humphrey Lhuyd, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum orbis terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr.